cymraeg  saesneg
Mid Wales Conferences
Croeso
Ydych chi'n chwilio am Leoliad ar gyfer Cynhadledd, Canolfan Gynadledda neu Ystafell ar gyfer Cyfarfod yng Nghymru? Os felly, croeso i Gynadleddau Canolbarth Cymru, y cyfeiriadur Lleoliadau a Chanolfannau Cynadledda ac Ystafelloedd Cyfarfod ar gyfer Canolbarth Cymru.
 

 
Mae Canolbarth Cymru eisoes yn adnabyddus i dwristiaid deallus sy'n mwynhau ei manteision. Byddant yn cael eu synnu gan y ffyrdd tawel agored, heddwch a llonyddwch y cefn gwlad prydferth, bwyd a llety ardderchog Cymreig, a chroeso go iawn pobl Canolbarth Cymru. Bydd ein hymwelwyr wrth eu boddau â'r trefi a phentrefi bach sydd llawn siopau diddorol ac mae arfordir Canolbarth Cymru heb ei ail. Gall yr ymwelwyr mwy egnïol fwynhau'r bryniau a'r dyffrynnoedd, a gall y gweddill hefyd fwynhau'r cestyll a'r golygfeydd yn fwy hamddenol.

Gyda'r llynnoedd, mynyddoedd a'r arfordir hefyd, dyma'r ardal ddelfrydol i gynnal eich cynhadledd ynddi!
 


Newyddion



FEATURED VENUE
Canolfan Gynadledda Gregynog
Y Drenewydd

Mae Neuadd Gregynog, sydd wedi'i guddio yng nghefn gwlad prydferth Canolbarth Cymru, ac sy'n un pellter o Ogledd a De Cymru, yn ganolfan gynadleddau sy& ... darllen mwy ... ->

GOFRESTRU YMA

Ddim eto'n Ddefnyddiwr Cofrestredig? Yna beth am GOFRESTRU YMA i dderbyn ein taflen newyddion a chadw eich manylion ar gyfer ymholiadau yn y dyfodol.